📍 Swansea, Wales • Posted 11h ago

Clerc y Gorfforaeth

🇬🇧 United Kingdom💰 From £52,105 /yr💼 College / University📂 Colleges & Universities
Offered SalaryFrom £52,105 /yr
Job TypeCollege / University
Location / Work ModeSwansea, Wales
Sector / CategoryColleges & Universities
💱 Estimated Compensation Breakdown Est. ≈ $66,173 USD/yr
Monthly Pay£4,342 / mo
Bi-Weekly Pay£2,004 / 2-wk
Hourly Rate£25.05 / hr
Sponsored LinkPromoted Career Matching

Role Overview & Responsibilities

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am wasanaethu Bwrdd Llywodraethwyr y Coleg a’i Bwyllgorau Sefydlog, gan sicrhau bod Busnes y Gorfforaeth yn cael ei gyflawni mewn modd effeithlon a di-dor. Byddwch yn cynnig cyngor annibynnol i Gadeirydd y Llywodraethwyr ar faterion sy’n ymwneud â llywodraethu, er mwyn sicrhau bod y Gorfforaeth yn gweithredu o fewn y pwerau a nodir yn y fframwaith llywodraethu statudol.

  • Rhan-amser - 25 awr yr wythnos
  • Parhaol
  • £52,105 y flwyddyn - pro rata i £35,205
  • Mae £8,449 yn daladwy ar gyfer dyletswyddau’r Swyddog Diogelu Data (6 awr ychwanegol yr wythnos)

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Sicrhau bod y busnes y Gorfforaeth yn cael ei gyflawni mewn modd effeithlon a didor; sicrhau bod y gorfforaeth yn gweithredu o fewn y pwerau a nodir yn y fframwaith llywodraethu statudol; gwneud yn siwr bod y Gorfforaeth yn cydymffurfio â gweithdrefnau cytûn yn unol â chyfrifoldebau a safonau cyfreithiol, statudol a chyhoeddus.
  • Darparu cyngor ac arweiniad da, cadarn a diduedd i’r Gorfforaeth a’i Bwyllgorau ar faterion llywodraethu corfforaethol, gan gynnwys:
    • Canllawiau ar faterion statudol, cyfansoddiadol a gweithdrefnol;
    • Cyngor proffesiynol annibynnol, gan gynnwys cyngor cyfreithiol gan asiantaethau allanol ar faterion llywodraethu;
    • Ffacotrau allanol neu fewnol a allai effeithio ar arferion llywodraethu, megis newidiadau i ddeddfwriaethau a datblygiadau llywodraethu.
  • Sicrhau bod busnes y Gorfforaeth ac unigolion yn cydymffurfio â’r safonau uchaf a ddisgwylir gan ddeiliaid swyddi cyhoeddus, gan gynnal a diweddaru cofrestr buddiannau aelodau ac uwch reolwyr; sicrhau ei fod ar gael i’w adolygu gan bobl sy’n dymuno gwneud hynny.

Amdanoch chi:

  • Bydd gennych radd neu gymhwyster proffesiynol, yn ogystal â:
  • Phrofiad o Lywodraethu Corfforaethol neu Reoli AB Uwch
  • Dealltwriaeth drylwyr o lywodraethu Corfforaethol o fewn y sector AB.
  • Dealltwriaeth o’r fframwaith cyfreithiol y mae cyrff llywodraethu colegau yn eu defnyddio
  • Gwybodaeth a phrofiad o reoli Pwyllgorau.

Buddion:

  • 37 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Parcio am ddim
  • Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Share this Job Opening

Help colleagues and network connections discover this verified vacancy.

Sponsored LinkPromoted Career Matching

Interested in this role at Gower College Swansea?

Apply directly through the verified employer application pipeline.

Similar Positions You May Like

Explore more roles matching your background in Colleges & Universities